07717 537034 neu 01591 611067

info@forestcottages.co.uk

Menu

AMDANOM NI

Mae Bythynnod Coed Trallwm mewn lleoliad trawiadol yng nghalon Canolbarth Cymru, yn gyfleus i lawer o’r ardaloedd mwyaf prydferth a golygfaol sydd gan Gymru i’w cynnig.

Mae’r bythynnod 10 milltir yn unig o Gronfa Ddŵr Llyn Brianne lle gallwch chi yrru trwy Benrhuddfa enwog, ymweld â Chwm Elan a cherdded trwy erwau o dir agored i gopa Drygan Fawr (641m). Mae’r wyth bwthyn yn swatio mewn cwm hyfryd yng Nghymru, a choetir gweithiol preifat 400 erw lle cewch dir agored i anturio trwyddo, pedwar llwybr beicio mynydd, llwybr chwarae, ystafell gemau, llyn wedi’i dirlunio a llawer o lwybrau cerdded.

Am fwy na 25 o flynyddoedd, mae’r bythynnod traddodiadol Cymreig cynnes a chyfforddus hyn o lechi a cherrig wedi bod yn sail wych i anturio trwy brydferthwch ac atyniadau Canolbarth Cymru.

Dewch i fwynhau Bythynnod Coed Trallwm,

Mary a Harri Phillips

LLEOLIAD

Mae Bythynnod Coed Trallwm yng Nghanolbarth Cymru mewn 400 erw o goetir preifat ymhell o’r ffair a’r ffwndwr, traffig, goleuadau stryd a sŵn.

Mae Trallwm i’w weld ar fap Landranger 147 yr Arolwg Ordnans neu fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans, cyf. 877542, 1.5 milltir i’r Gogledd Ddwyrain o Abergwesyn, 3.5 milltir i’r Gogledd Orllewin o Beulah.

Mae Beulah 8 milltir i’r Gorllewin o Lanfair-ym-muallt ar ffordd yr A483

Os ydych chi’n defnyddio Llyw Lloeren, yna LD5 4TS yw’r cod post

Bythynnod Coed Trallwm
Abergwesyn
Llanwrtyd Wells
Powys
LD5 4TS

Ffôn – 07717537034

E-bost – info@forestcottages.co.uk